A información xeral do Observatorio

Cymraeg

Arsyllfa’r Iaith Aliseg
Croeso i wefan Arsyllfa’r Iaith Aliseg. Cewch wybodaeth ddiddorol yma am iaith Galisia, ac am y gwaith sydd wedi ei gyflawni gan yr Arsyllfa hyd yn hyn.

Sefydlwyd Arsyllfa’r Iaith Aliseg yn 2007 trwy symbyliad Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol Polisi Iaith y Xunta de Galicia (llywodraeth Galisia, Sbaen), a’i phrif nod yw cael gwybodaeth o lygad y ffynnon am sefyllfa’r iaith Aliseg yn y gymdeithas yng Ngalisia. Mae’r wybodaeth yn cael ei rhoi ar y wefan hon.

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys, ymhlith adnoddau eraill, ddogfennau am gymdeithaseg iaith yr ieithoedd swyddogol yn Sbaen ac ieithoedd mewn gwledydd eraill. Bwriad Arsyllfa’r Iaith Aliseg yw cyfrannu i amrywiaeth ieithyddol y byd, a hybu ieithoedd lleiafrifol rhanbarthol. I gyd-fynd â’r nod hwn, mae’r wefan yn cynnwys adran newyddion sy’n sôn am sefyllfa ieithoedd y byd ac mae’n cael ei diweddaru’n ddyddiol. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys bwletin electronig wythnosol.

Felly, gwahoddwn chi i ymweld â’n gwefan yn un o’r ieithoedd canlynol: Galiseg, Sbaeneg – ac i danysgrifio i dderbyn ein bwletin. Os hoffech wybod rhagor am Arsyllfa’r Iaith Aliseg, gallwch anfon e-bost at info@observatoriodalinguagalega.org.

Gwybodaeth sylfaenol am yr iaith Aliseg

Translated by Menna Wyn

Boletín

Subscríbase ao boletín

Logo Feder